Ciw-restr

Sdimbydineud

Llinellau gan Aelod Cabinet (Cyfanswm: 11)

 
(0, 10) 500 Diolch, Mr/Mrs Cadeirydd.
(0, 10) 501 Wel, yn syml, fel y'ch chi'n gwbod, mae Caerdydd wedi bod yn pwyso arno ni i gydymffurfio â'r holl siroedd eraill ac i baratoi polisi newydd yn berthnasol i'r mater hwn.
(0, 10) 502 Leicwn i gymryd y cyfle hwn, gyfeillion, i ddiolch yn ddidwyll iawn i swyddogion yr adran am eu gwaith caled – dros y deunaw mai diwethaf hyn – yn paratoi'r polisi newydd – ac i'r Cyfarwyddwr yn arbennig.
(0, 10) 503 Ry' ni mor ffodus yng Ngheredigion bod da ni Gyfarwyddwr sydd yn deall ffordd Caerdydd o feddwl mor dda, ac sydd felly yn gallu sicrhau ein bod ni, fel cyngor, yn cael yr arweiniad gore posib.
(0, 10) 504 ~
(0, 10) 505 Nawr, o fewn y polisi newydd mae yna un oblygiad sydd wedi codi – fel y soniodd y Cadeirydd – wedi codi dipyn o stŵr yn ardal Tregaron yn arbennig.
(0, 10) 506 Dwi'n cydymdeimlo'n fawr â'u consyrn, wrth gwrs.
(0, 10) 507 Ond os y'n ni i fabwysiadu'r polisi – fel mae Caerdydd moyn i ni neud, ontife – wedyn does dim dewis.
(0, 10) 508 Bydd rhaid cymryd y camau yn ardal Tregaron mae Is-Adran 3, tudalen 173, paragraff 28.9 yn eu hamlinellu.
(0, 10) 509 ~
(0, 10) 510 I gyflwyno i chi union fwriad y polisi, dwi'n troi yn awr am gymorth pensaer y polisi – yr un sy'n deall yr holl oblygiadau yn well na'r un ohonom – Y Cyfarwyddwr.